OHERWYDD SEFYLLFA COVID BYDD RHAID GOHIRIO #WYTHNOSDYSGUAWYRAGOREDCYMRU YN 2020 OND RYDYM YN AIL-LANSIO’R YMGYRCH ELENI 2021.
SUT ALLWCH CHI GYMRYD RHAN?
EWCH TU ALLAN ....
…ewch allan, da chi. Am ychydig funudau neu awr, diwrnod neu benwythnos. Treuliwch amser yn yr awyr agored ym myd natur. Defnyddiwch eich synhwyrau – edrychwch, gwrandwch, teimlwch… cysylltwch
Byddwch yn Egnïol…
Ewch ar droed, beiciwch neu rhwyfwch… cerddwch, rhedwch, dringwch, ewch ar feic neu ganŵ… Mae treulio amser y tu allan yn gwella lles corfforol a meddyliol, yn eich cadw rhag gordewdra ac yn lleihau symptomau straen.
helpwch ni i adrodd yr hanes…
Cliciwch isod i rannu eich cynlluniau chi ar gyfer #WythnosDysguAwyrAgoredCymru – fe wnawn ni ddefnyddio’r wybodaeth i ddangos effaith dysgu yn yr awyr agored i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill
Dysgwch…
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod dysgu mewn amgylchedd naturiol yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth, gan ein helpu ni i weld yr effaith rydyn ni’n ei chael ar yr amgylchedd nawr ac yn y dyfodol.
Byddwch yn Gyfrifol…
…drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gofalu am natur. Gwnewch fwydwyr adar, dysgwch am egwyddorion lleihau ein heffaith, casglwch sbwriel neu blastigion neu ymgyrchwch a chodwch arian dros achos.
Rhannwch a Dathlwch…
Rhannwch eich anturiaethau, dyfyniadau a lluniau dysgu yn yr awyr agored â ni drwy ddefnyddio’r hashnod #WythnosDysguAwyrAgoredCymru. Defnyddiwch @walescouncil4ol i ychwanegu Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored
“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod dysgu mewn amgylchedd naturiol yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth, gan ein helpu ni i weld yr effaith rydyn ni’n ei chael ar yr amgylchedd nawr ac yn y dyfodol. Mae hefyd yn gallu gwella iechyd a lles drwy helpu i’n cadw rhag gordewdra a lleihau symptomau straen.”
Sue Williams, Uwch Gynghorydd ar gyfer Addysg
“Mae #WythnosDysguAwyrAgoredCymru yn rhoi llwyfan gwych (ac y mae mawr ei angen) i ddathlu’r cyfleoedd Dysgu yn yr Awyr Agored o Safon Uchel arbennig sy’n digwydd bob dydd yng Nghymru. Mae hefyd yn annog pobl o bob oed a chefndir i fynd y tu allan a chymryd y camau cyntaf hynny i gysylltu â’r awyr agored a natur wyllt Cymru.”
Phil Stubbington, Cadeirydd – Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored
Please ensure that all activities undertaken conform to current Government Guidance. www.gov.wales/coronavirus Dismiss