Meddyliwch am ein byd ar Ddiwrnod y Llyfr; llyfrau, llythrennedd, ac addysg cysylltiad รข natur
- Anita Daimond
- Mar 2, 2022
- 5 min read
Updated: Mar 4, 2022
Geiriau Allweddol : Cysylltiad รข Natur, Ddiwrnod y Llyfr, Llyfrau, Barddoniaeth, Geiriau, Llythrennedd

Yn y blog yma dwiโn rhannu ychydig o lyfrau a cherddi dwiโn credu syโn ysbrydoli ar gyfer addysg cysylltiad รข natur, ac i ysbrydoli ni er mwyn i ni ddatblygu cysylltiad รข natur mewn eraill. Mae nifer o lyfrau eraill ar gael ond dyma rhai o fy newisiadau i.
Ond beth yw cysylltiad รข natur? A pam ddylen ni annog plant i ddatblygu cysylltiad รข natur?
Wel mae Rachel Carson, wnaeth sgwennu โThe Sense of Wonderโ[1] yn awgrymu ei fod am deimlo natur. Mae am greu cynnwrf emosiynol; efallai gwerthfawrogi harddwch, cyffro am yr hyn syโn newydd neuโn rhyfedd, cydymdeimlad neu edmygedd. Unwaith rydym wedi datblygu cysylltiad emosiynol fedrwn werthfawrogi natur ac yn fwy tebygol i wneud rhywbeth er lles natur. Os hoffech ddysgu mwy am y proses hwn darllenwch y camau a gwelwch y poster syโn crynhoi โdilyniant naturiolโ.[2]
Beth ywโr bendithion iโr unigolyn o greu cysylltiad รข natur?
Mae awdur yn ei arddegau (Dara McAnulty) o Iwerddon yn dangos pa mor bwysig mae natur iโw iechyd meddwl yn ei lyfr โDiary of a Young Naturalistโ[3]. Fel hogyn gydag awtistiaeth, mae Daraโn cael hiโn anodd yn yr ysgol, mae natur yn ei ymhyfrydu ac yn cynnal llecynnau corfforol a meddyliol diogel iddo. Ond nid yw natur i rai gydag awtistiaeth yn unig. Mae amser yn natur yn cael effaith positif ar iechyd meddwl a gallu gwybyddol ni gyd. Maeโn werth cymryd amser i ddarllen ei dyddiadur er mwyn dysgu am natur ac atgoffaโch hunain am ba mor bwysig mae o i wylio natur a denig i mewn i fyd natur, yn ogystal รข treulio amser yn natur. Dwiโn uniaethu efo fo pan mae oโn rhyfeddu mewn natur ac maeโn fy atgoffa fi oโr ffaith fy mod iโn teimloโn gartrefol yn fy myd bach fy hun wrth i mi dreulio amser yn syllu ar natur. Hefyd, mae oโn gwybod yr effaith positif mae natur yn cael arno sydd yn elfen bwysig arall sydd angen i ni ddatblygu; fel medrwn helpu ein hunain i gadwโn iach yn feddyliol.
Sut fedrwn defnyddio llyfrau a benillion ar gyfer datblygu cysylltiad รข natur?
Un llyfr poblogaidd ar gyfer hyn yw โThe Lost Wordsโ (Geiriau Diflanedig) gan Robert Macfarlane a Jackie Morris[4]. Maeโr llyfr hyfryd ymaโn plethu barddoniaeth synhwyrol a darluniau hardd mewn llyfr hudolus syโn ceisio atal geiriau am blanhigion a chreaduriaid diflannu o eirfa plant. Nid yn unig disgrifiadau oโr ffurf y planhigion aโr anifeiliaid iโw gael yn y farddoniaeth yma, ond eu cymeriadau aโi chynefin. Maeโr darluniauโn ychwanegu iโr profiad synhwyrol ac maeโr llythyrau cudd yn ychwanegiad cynnil syโn cyfeirio at bwrpas y llyfryn.
Os hoffwch ddefnyddioโr llyfr yma, mi fyddwch chiโn falch o glywed fod grลตp o fyfyrwyr roedd yn astudio ar gyfer gradd y Blynyddoedd Cynnar, wedi creu Pecyn Cymorth Addysgu[5] ar sail y llyfr Geiriau Diflanedigโ. Maeโr pecyn ymaโn cyflwyno llu o syniadau all ar gyfer gwaith ar gyfer y cyfnod sylfaen all hefyd cael eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill. Er maeโr llyfr gwreiddiol yn Saesneg, maeโr pecyn yma ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.
Clychauโr Gog yw un oโr rhywogaethau dan sylw yn y llyfr โThe Lost Wordsโ, hefyd mewn llyfr โWild Childโ gan Dara McAnulty[6]. Dyma llyfr arall hyfryd a lliwgar. Dyma lyfr arall hyfryd a lliwgar. Maeโr llyfr yma wedi anelu ar blant ac yn plethu ffeithiau diddorol, syniadau am weithgareddau, a geirfa fedrwch ddefnyddio ar gyfer disgrifio natur e.e. โa murmuration of starlingsโ ag โa quarrel of sparrows. Fedrwch chi ddarganfod beth yw'r dywediadau yn Gymraeg tybed?

Barddoniaeth am Glychauโr Gog sydd wedi taro cloch efo fi, ywโr penillion gan R Williams Parry[7]. Dwiโn hoffiโr cysylltiad mae oโn gwneud rhwng yr adeg maen nhwโn blodeuo gydaโr cyfnod maeโr gog yn canu sydd yn enghraifft oโr cydgysylltiad syโn bodoli mewn natur. Maeโr cysylltiad ecolegol hyn yn unigryw iโn henw Gymraeg, gan fod yn Saesneg y lliw glas sydd yn rhoiโr enw โbluebellโ iddynt. Mae clychauโr gog a โbluebellโ yn enghraifft oโr gwahanol ffactorau sydd yn dylanwadu ar sut mae enwau ar gyfer natur yn cael eu ffurfio. Soniais am hyn mewn sesiwn hyfforddiant ar-lein llynedd[8]. Roeddwn falch darganfod ychydig wedyn fod un oโr athrawon, o ganlyniad yr hyfforddiant, wedi astudio 'Clychauโr Gog' gydaโi ddisgyblion, ac wedi ymweld รข bedd R Williams Parry fel rhan oโi waith maes.
Elfen arall oโr farddoniaeth yma wnes i uniaethu gydag, oedd y ffaith ei fod oโn cyfeirio at Landygai โ sef pentref cyfagos i mi. Mae โlleoliadโ aโr cysyniadau o gwmpas cynefin, hiraeth a chysylltiad gydaโn milltir sgwรขr yn elfennau eraill pwerus oโn cysylltiad รข natur.
Barddoniaeth โlleoliadโ darganfyddais blynyddoedd yn รดl oedd am Gwm Pennant gan Eifion Wyn[9]. Roeddwn iโn gallu dychmygu cerdded yno, gweld yr holl fywyd gwyllt, edmyguโr harddwch a theimloโr cysylltiad gydaโr ardal, y natur, y tir aโr ddaear.
"Pam, Argwlydd y gwnaethost Gwm Pennant more dlws
A bywyd hen fugail mor fyr? "
Maeโr cwpled diwethaf uchod wedi cael ei chyfieithu i Saesneg[10] aโi ddefnyddio er mwyn hyrwyddo harddwch yr ardal i ymwelwyr. Dwiโn credu mai trwy astudio barddoniaeth Cymraeg yn yr ysgol wnes i ddatblyguโr cysyniad fod y Cymry yn hanesyddol wedi gwerthfawrogi natur a bod hyn yn elfen gryf oโn hatyniadau iโn bro a theimladau o hiraeth tra i ffwrdd. Ond erbyn rลตan dwiโn gweld nid y ni yn unig sydd gydaโr teimladau yma. Mae Rachel Carson yn hoff oโi hardal yn Maine, mae Dara Mc Anulty gydaโi hoff lefydd yn Iwerddon a dwiโn siลตr yn ystod y Pandemig mae nifer fawr wedi cael hyd i lecyn bach o natur leol sydd wedi dod yn arbennig iddyn nhw.

Cysylltu รข natur yn ein gerddi
I rai ohonom, roedd y cyfnod clo yn gyfle i arddio, a sicr maeโn un ffordd fedrwn ddatblygu cysylltiad รข natur. Pob tro dwiโn rhoi hadau lawr a dwiโn mynd yn รดl a gweld ei fod nhwโn tyfu dwiโn cael gwefr o gyffro โ er fy mod i wedi gwneud bron pob gwanwyn ers i mi fod yn blentyn. Pleser felly ddod ar draws y llyfr newydd โDere i Dyfuโ gan Adam Jones[11]. Mae nifer o lyfrau am arddio ar gael ond efallai bydd y cymeriadau gweithgar hapus anifail ymaโn dod a garddio i gynulleidfa newydd.

Angen mwy o syniadau?
Os mae dal angen ysbrydoliaeth arnoch, beth am ddilyn rhai oโr dolenni ynghlwm ar gyfer enghreifftiau eraill fedrwch ddefnyddio er mwyn plethu llenyddiaeth รข natur. Ond cofiwch, ewch ati i fynd aโch plant a disgyblion allan i brofi natur a sylwi ar natur dros eu hunain fel bydd ganddynt brofiadau a theimladau i rannu ag eraill. Yn รดl geiriau Rachel Carson, nid oes angen i chi allu adnabod rhywogaethau er mwyn dysgu plant am natur:
"...maeโn llawer pwysicach i deimlo na gwybod "
"...it is not half so important to know as to feel "

Gan Anita Daimond, Antur Natur
Troednodiadau
[1] 1998 โThe Sense of Wonderโ gan Rachel Carson (Lluniau Nick Kelsh, Rhagarweiniad Linda Lear) Harper &Row Publishers, New York (wnaeth llyfr wreiddiol Rachel Carson cael ei cyhoeddi yn 1965) [2] Dilyniant Naturiol https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/education-learning-and-skills/whats-your-connection-with-nature-like/?lang=cy
[3] 2020 โDiary of a Young Naturalistโ gan Dara McAnulty. Penguin, Prydain.
[4] 2017 โThe Lost Wordsโ geiriau gan Robert Macfarlane, darluniadau gan Jackie Morris, Penguin UK [5] https://cy.walescouncilforoutdoorlearning.org/resources Pecyn Cymorth Addysgu i gefnogi cwricwlwm y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru [6] 2021 โWild Child: a journey through Natureโ gan Dara McAnulty, darluniadau gan Barry Falls. Macmillan. Llundain [7] Clychauโr Gog gan R Williams Parry. Gefais hyd iddi yn 1998 โThe Oxford Book of Welsh Verse: Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg golygydd Thomas Parry. Oxford University Press. [8] https://www.youtube.com/watch?v=AdPpR0RlyJc Sesiwn hyfforddiant athrawon ar-lein ar gyfer y cynllun Partneriaeth Tirwedd Y Carneddau [9] https://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/porthmadog/pages/cwm_pennant.shtml?5 Cwm Pennant gan Eifion Wyn (1867 - 1926) [10] Mae cyfieithiad oโr holl darn o farddoniaeth ar gael yn y llyfr yma 1997 โCymric Scriptures, Ysgrythurau Cymraegโ gan Charles Lawrie. Wynstones Press. Stourbridge. [11] 2021 โDere i Dyfu, gyda Dewi Draenog a Beca Brogaโ gan Adam Jones, lluniau gan Ali Lodge, dylunio gan Tanwen Haf. Y Lolfa. Talybont.