top of page
IMG_6032.JPG

YCHYDIG AMDANOM

Cydweithio ar gyfer dysgu awyr agored a'r amgylchedd naturiol

Mae Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored yn dod a rhanddeiliad sy'n ymwneud â Dysgu Awyr Agored yng Nghymru ynghyd. Mae'n cydnabod bod gan bob rhanddeiliad rôl werthfawr i'w chwarae  i greu llais cyfunol, cydlynol ar gyfer Dysgu Awyr Agored yng Nghymru, wedi’i adeiladu ar ethos / sylfaen o fod yn:

 

Strategol         Rhagweithiol         Niwtral         Cydweithredol

 

Mae Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored yn gweithredu fel platfform ar gyfer gweithio mewn partneriaeth, gan ddefnyddio’r profiad cyfoeth sefydliadau, i weithio gyda'i gilydd er budd Dysgu Awyr Agored, a phawb sy'n gysylltiedig.

 

Mae Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored yn cydnabod y gwerth a'r profiad enfawr sydd gan bob sefydliad wrth symud Dysgu Awyr Agored yng Nghymru ymlaen (yn rhanbarthol, yn genedlaethol, ac yw'n cymryd rhan ar hyn o bryd ai pheidio).  Mae'n croesawu pawb i gyfrannu a chydweithio wrth symud ymlaen.

 

Dibenion Allweddol:

  • Gweithredu fel llais ar gyfer [sbectrwm eang] Dysgu Awyr Agored yng Nghymru

  • Dod â Rhanddeiliaid Allweddol o bob rhan o Ddysgu Awyr Agored at ei gilydd, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u rolau  

  • Arwain trwy esiampl a rhannu arfer da

  • Hwyluso platfform ar gyfer gweithio mewn partneriaeth

  • Lobïo dros ddatblygu / cydnabod Dysgu Awyr Agored gyda Llywodraeth Cymru ac agendâu allweddol eraill

 

Cefndir a Rhesymeg:

Mae Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored wedi bod yn gweithio ar ran Dysgu Awyr Agored yng Nghymru ers 2008 (yn ffurfiol y Bartneriaeth Dysgu Byd Go Iawn), ac mae'n cydnabod er bod amrywiaeth o sefydliadau allweddol sy'n cynrychioli ( a chyfrannu'n sylweddol) at ddatblygiad Dysgu Awyr Agored yng Nghymru.  Mae’n adnabod fod  angen dull partneriaeth ar y cyd i ddod â'r holl randdeiliaid ynghyd, ac i gynrychioli'r sbectrwm eang o Ddysgu Awyr Agored yng Nghymru; o deuluoedd i ysgolion, Llywodraeth Cymru i Estyn, a PHAWB rhyngddynt.

​

Mae hanes cryno yn Saesneg o'r 'Bartneriaeth Dysgu Byd Go Iawn' ar gael yma - bydd fersiwn Cymraeg ar gael cyn hir.

​

​

 

EIN PRIF DDIBENION

​

  • ​Gweithredu fel llais ar gyfer [sbectrwm eang] Dysgu yn yr Awyr Agored yng Nghymru

  • Dod â Rhanddeiliaid Allweddol o bob rhan o Ddysgu Awyr Agored ynghyd, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u rolau penodol.

  • Hyrwyddo rôl dysgu awyr agored wrth helpu'r amgylchedd.

  • Arwain trwy esiampl a rhannu arfer da

  • Hwyluso llwyfan ar gyfer gweithio mewn partneriaeth

  • I lobïo ar gyfer datblygu/cydnabyddiaeth Dysgu yn yr Awyr Agored gyda Llywodraeth Cymru ac agendâu allweddol eraill.

​

IMG_0673_edited.jpg

EIN GWAITH

bottom of page