top of page
Podiwm
Cysylltu Gyda Llywodraeth Cymru
PUfoyFzE_400x400 (1).png

Un o brif ddibenion Cyngor Cymru ar Gyfer Dysgu yn yr Awyr agored yw:

​

Lobïo dros ddatblygu / cydnabod Dysgu Awyr Agored gyda Llywodraeth Cymru ac agendâu allweddol eraill

​

Gallwch weld enghreifftiau o rai o’r ffyrdd rydym wedi gwneud hyn isod.

Gweler ein llythyr at Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, i adeiladu ar y berthynas flaengar a ddatblygwyd rhwng Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored a’i ddau ragflaenydd.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda Lynne er budd dysgu yn yr awyr agored, natur a chefnogi pobl i wneud gwahaniaeth.

Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad ar gyfer 'Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)‘ yn Ionawr 2023. Cewch ddarllen yma.

Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad ar gyfer 'Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)‘ yn Ionawr 2023. Cewch ddarllen yma.

Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad ar gyfer 'Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)‘ yn Ionawr 2023. Cewch ddarllen yma.

Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad Diweddaru ‘Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru' yn Ionawr 2023

Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad Diweddaru ‘Meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru' yn Ionawr 2023

Rydym wedi cael ymateb gan y gweinidog addysg Jeremy Miles. Cewch ei ddarllen yma.

Gweler ein llythyr at y gweinidog addysg newydd Jeremy Miles, i adeiladu ar y berthynas flaengar a ddatblygwyd rhwng cyngor Cymru ar gyfer dysgu awyr agored a Gweinidog Addysg y Senedd, Kirsty Williams.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Jeremy er budd dysgu awyr agored, natur a chefnogi pobl ifanc i wneud gwahaniaeth.

Fe wnaethom ymateb i’r ymgynghoriad ‘Canllawiau fframwaith drafft ar wreiddio dull ysgol gyfan’ yn ymwneud ag iechyd a llesiant ym mis Medi 2021.

Gwnaethom ymateb i ymgynghoriad 'Canllawiau Iaith Arwyddion Prydain' Cwricwlwm i Gymru ym mis Mawrth 2021

Fe wnaethom ymateb i ymgynghoriad 'Canllawiau Drafft Cwricwlwm i Gymru 2022' ym mis Gorffennaf 2019

Fe wnaethom ymateb i’r ymgynghoriad ‘Parchu Eraill’ sy’n ymwneud â gwrth-fwlio ym mis Chwefror 2019.

Fe wnaethom ymateb i'r ymgynghoriad 'Cynllun atal sbwriel a thipio anghyfreithlon'.

Gardening Lesson
Partneriaeth Dysgu yn y Gwir Fyd Cymru

Wedi’i lansio yn 2009, daeth Partneriaeth Dysgu yn y Gwir Fyd Cymru â sefydliadau ynghyd sy’n cefnogi darparu Dysgu yn yr Awyr Agored tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig.

​

Rhannodd y bartneriaeth arfer dda ymhlith ei haelodau a chyda'r sector addysg trwy ddigwyddiadau hyfforddi ac adnoddau. Gweithredodd y bartneriaeth fel llais i’r sector gan helpu i godi proffil dysgu tu hwnt i’r dosbarth ac amlygu ei fanteision niferus. Ei nod oedd meithrin gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'i werth a'i gyfraniad hanfodol i ddatblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang.

​

Yn 2017, adolygwyd y bartneriaeth a daeth yn Gyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored. Cyflwynwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad isod fel Partneriaeth Dysgu yn y Gwir Fyd Cymru yn 2018.

​

Mae hanes cryno yn Saesneg o'r 'Bartneriaeth Dysgu Byd Go Iawn' ar gael yma - bydd fersiwn Cymraeg ar gael cyn hir.

1

Ymgynghoriad ‘Cynllun 10 mlynedd drafft ar gyfer gweithlu’r blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae yng Nghymru’ yn 2014.

2

Ymgynghoriad cwricwlwm 'Y Drafodaeth Fawr' yn 2015

3.

'Meini prawf drafft ar gyfer achredu rhaglenni Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru a'r cynnig i Gyngor y Gweithlu Addysg achredu addysg gychwynnol athrawon' ymgynghoriad 2016 

bottom of page