
WYTHNOS DYSGU AWYR AGORED
28ain Ebrill–4ydd Mai 2025
Ymunwch â ni i ddathlu dosbarth gorau Cymru – ein hamgylchedd naturiol!
Wedi’i threfnu bob gwanwyn ers 2019, mae Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn gyfle gwych i arddangos a dathlu sut y gallwn ni i gyd elwa o ddysgu yn, a dysgu amdan, ein hamgylchedd naturiol.

DYSGWYR UCHELGEISIOL A GALLUOG
THEMA WOLW2025
Thema eleni yw “Dysgwyr Uchelgeisiol a Galluog”, un o bedwar pwrpas craidd y Cwricwlwm newydd i Gymru. Gall dysgu yn yr awyr agored chwarae rhan hanfodol wrth feithrin sgiliau, datblygu gwybodaeth a goresgyn heriau.
PWYSIG
MENTRA'N GALL
Pwrpas Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yw mynd allan ac archwilio Cymru. Mae bod yn yr awyr agored yn hwyl ond rhaid inni fod yn ddiogel hefyd. Cofiwch i MENTRA'N GALL!
Ond sut alla i #MetranGall? Dechreuwch trwy ofyn tri chwestiwn i chi'ch hun:
-
Ydw i'n hyderus bod gen i'r WYBODAETH A'R SGILIAU am y diwrnod?
-
Ydw i'n gwybod sut fydd y TYWYDD?
-
Oes gen i'r OFFER iawn?
Ewch i adventuresmart.uk am ragor o awgrymiadau defnyddiol a chymorth cynllunio.