top of page

Dysgu yn yr Awyr Agored o Safon Uchel

Mae Dysgu yn yr Awyr Agored o Safon Uchel i Gymru yn adeiladu ar y ddogfen Dysgu yn yr Awyr Agored o Safon Uchel a baratowyd gan OEAP a Chyngor Awyr Agored Lloegr, yn gosod y ddogfen mewn cyd-destun penodol Cymreig; yn plethu arferion da Dysgu yn yr Awyr Agored gyda deddfwriaeth Llywodraeth Cymru a’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Mae’r canllaw yn amlinellu’n glir fuddiannau dysgu ac addysgu yn yr amgylchedd naturiol, ac wedi ei lunio i’ch helpu chi i werthuso a mynd ati i wella, neu wella ymhellach, safon addysg yn yr awyr agored.

​

I gefnogi hyn, penderfynwyd ar ddeg canlyniad i ddysgu yn yr awyr agored, a chyfres o ddangosyddion ar gyfer pob un. Gallwch ddefnyddio’r dangosyddion i gefnogi unrhyw welliannau a bydd y rheiny’n elwa o weithio yn agos gyda phartneriaid.

​

Gyda’i gilydd, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llunio deddfwriaeth fodern i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae dysgu yn yr awyr agored yn cyfrannu tuag at bob un o’r Saith Nod Llesiant ynghyd â chynnig ‘cyfleoedd a gweithgareddau sy’n ehangu gorwelion o fewn a thu hwnt i amgylchfyd dysgu traddodiadol yr ystafell ddosbarth.’

bottom of page