Rhwydwaith Hyfforddi Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru
Mae Rhwydwaith Hyfforddi Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru yn rhwydwaith Cymru gyfan sy’n sicrhau ansawdd a safonau uchel wrth ddatblygu cyrsiau dysgu yn yr awyr agored achrededig newydd, ac wrth gyflenwi ystod o unedau achrededig.
Mae’r Rhwydwaith yn cefnogi arfer da ar lefel Prydain Fawr trwy gynghori a dylanwadu ar sefydliadau partner cenedlaethol priodol.
Cymwysterau
Mewn partneriaeth gydag Agored Cymru, mae aelodau’r Rhwydwaith wedi datblygu cyfres o gymwysterau lefel 1 i 4 ar gyfer Ysgolion Coedwig, Ysgolion Arfordirol, Llesiant ym Myd Natur, Addysgeg Dysgu yn yr Awyr Agored a Dysgu a Chwarae yn yr Awyr Agored. Mae’r holl dystysgrifau a diplomâu yn cynnwys unedau ar reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy.
Ymgyffori Dysgu Awyr Agored
Un o’r ffyrdd mwyaf cynaliadwy o sicrhau bod lleoliad addysg yn ymgorffori dysgu yn yr awyr agored a datblygu cynaliadwy ar draws ei strwythur yw annog staff i ennill cymwysterau sydd yn eu tro yn rhoi’r hyder iddynt barhau i ymarfer a gwella eu sgiliau.