top of page
Search

Meddyliwch am ein byd ar Ddiwrnod y Llyfr; llyfrau, llythrennedd, ac addysg cysylltiad â natur

Updated: Mar 4, 2022

Geiriau Allweddol : Cysylltiad â Natur, Ddiwrnod y Llyfr, Llyfrau, Barddoniaeth, Geiriau, Llythrennedd


Yn y blog yma dwi’n rhannu ychydig o lyfrau a cherddi dwi’n credu sy’n ysbrydoli ar gyfer addysg cysylltiad â natur, ac i ysbrydoli ni er mwyn i ni ddatblygu cysylltiad â natur mewn eraill. Mae nifer o lyfrau eraill ar gael ond dyma rhai o fy newisiadau i.


Ond beth yw cysylltiad â natur? A pam ddylen ni annog plant i ddatblygu cysylltiad â natur?


Wel mae Rachel Carson, wnaeth sgwennu ‘The Sense of Wonder’[1] yn awgrymu ei fod am deimlo natur. Mae am greu cynnwrf emosiynol; efallai gwerthfawrogi harddwch, cyffro am yr hyn sy’n newydd neu’n rhyfedd, cydymdeimlad neu edmygedd. Unwaith rydym wedi datblygu cysylltiad emosiynol fedrwn werthfawrogi natur ac yn fwy tebygol i wneud rhywbeth er lles natur. Os hoffech ddysgu mwy am y proses hwn darllenwch y camau a gwelwch y poster sy’n crynhoi ‘dilyniant naturiol’.[2]


Beth yw’r bendithion i’r unigolyn o greu cysylltiad â natur?


Mae awdur yn ei arddegau (Dara McAnulty) o Iwerddon yn dangos pa mor bwysig mae natur i’w iechyd meddwl yn ei lyfr ‘Diary of a Young Naturalist’[3]. Fel hogyn gydag awtistiaeth, mae Dara’n cael hi’n anodd yn yr ysgol, mae natur yn ei ymhyfrydu ac yn cynnal llecynnau corfforol a meddyliol diogel iddo. Ond nid yw natur i rai gydag awtistiaeth yn unig. Mae amser yn natur yn cael effaith positif ar iechyd meddwl a gallu gwybyddol ni gyd. Mae’n werth cymryd amser i ddarllen ei dyddiadur er mwyn dysgu am natur ac atgoffa’ch hunain am ba mor bwysig mae o i wylio natur a denig i mewn i fyd natur, yn ogystal â treulio amser yn natur. Dwi’n uniaethu efo fo pan mae o’n rhyfeddu mewn natur ac mae’n fy atgoffa fi o’r ffaith fy mod i’n teimlo’n gartrefol yn fy myd bach fy hun wrth i mi dreulio amser yn syllu ar natur. Hefyd, mae o’n gwybod yr effaith positif mae natur yn cael arno sydd yn elfen bwysig arall sydd angen i ni ddatblygu; fel medrwn helpu ein hunain i gadw’n iach yn feddyliol.


Sut fedrwn defnyddio llyfrau a benillion ar gyfer datblygu cysylltiad â natur?


Un llyfr poblogaidd ar gyfer hyn yw ‘The Lost Words’ (Geiriau Diflanedig) gan Robert Macfarlane a Jackie Morris[4]. Mae’r llyfr hyfryd yma’n plethu barddoniaeth synhwyrol a darluniau hardd mewn llyfr hudolus sy’n ceisio atal geiriau am blanhigion a chreaduriaid diflannu o eirfa plant. Nid yn unig disgrifiadau o’r ffurf y planhigion a’r anifeiliaid i’w gael yn y farddoniaeth yma, ond eu cymeriadau a’i chynefin. Mae’r darluniau’n ychwanegu i’r profiad synhwyrol ac mae’r llythyrau cudd yn ychwanegiad cynnil sy’n cyfeirio at bwrpas y llyfryn.


Os hoffwch ddefnyddio’r llyfr yma, mi fyddwch chi’n falch o glywed fod grŵp o fyfyrwyr roedd yn astudio ar gyfer gradd y Blynyddoedd Cynnar, wedi creu Pecyn Cymorth Addysgu[5] ar sail y llyfr Geiriau Diflanedig’. Mae’r pecyn yma’n cyflwyno llu o syniadau all ar gyfer gwaith ar gyfer y cyfnod sylfaen all hefyd cael eu haddasu ar gyfer oedrannau eraill. Er mae’r llyfr gwreiddiol yn Saesneg, mae’r pecyn yma ar gael yn Saesneg ac yn Gymraeg.


Clychau’r Gog yw un o’r rhywogaethau dan sylw yn y llyfr ‘The Lost Words’, hefyd mewn llyfr ‘Wild Child’ gan Dara McAnulty[6]. Dyma llyfr arall hyfryd a lliwgar. Dyma lyfr arall hyfryd a lliwgar. Mae’r llyfr yma wedi anelu ar blant ac yn plethu ffeithiau diddorol, syniadau am weithgareddau, a geirfa fedrwch ddefnyddio ar gyfer disgrifio natur e.e. ‘a murmuration of starlings’ ag ‘a quarrel of sparrows. Fedrwch chi ddarganfod beth yw'r dywediadau yn Gymraeg tybed?



Barddoniaeth am Glychau’r Gog sydd wedi taro cloch efo fi, yw’r penillion gan R Williams Parry[7]. Dwi’n hoffi’r cysylltiad mae o’n gwneud rhwng yr adeg maen nhw’n blodeuo gyda’r cyfnod mae’r gog yn canu sydd yn enghraifft o’r cydgysylltiad sy’n bodoli mewn natur. Mae’r cysylltiad ecolegol hyn yn unigryw i’n henw Gymraeg, gan fod yn Saesneg y lliw glas sydd yn rhoi’r enw ‘bluebell’ iddynt. Mae clychau’r gog a ‘bluebell’ yn enghraifft o’r gwahanol ffactorau sydd yn dylanwadu ar sut mae enwau ar gyfer natur yn cael eu ffurfio. Soniais am hyn mewn sesiwn hyfforddiant ar-lein llynedd[8]. Roeddwn falch darganfod ychydig wedyn fod un o’r athrawon, o ganlyniad yr hyfforddiant, wedi astudio 'Clychau’r Gog' gyda’i ddisgyblion, ac wedi ymweld â bedd R Williams Parry fel rhan o’i waith maes.


Elfen arall o’r farddoniaeth yma wnes i uniaethu gydag, oedd y ffaith ei fod o’n cyfeirio at Landygai – sef pentref cyfagos i mi. Mae ‘lleoliad’ a’r cysyniadau o gwmpas cynefin, hiraeth a chysylltiad gyda’n milltir sgwâr yn elfennau eraill pwerus o’n cysylltiad â natur.

Barddoniaeth ‘lleoliad’ darganfyddais blynyddoedd yn ôl oedd am Gwm Pennant gan Eifion Wyn[9]. Roeddwn i’n gallu dychmygu cerdded yno, gweld yr holl fywyd gwyllt, edmygu’r harddwch a theimlo’r cysylltiad gyda’r ardal, y natur, y tir a’r ddaear.


"Pam, Argwlydd y gwnaethost Gwm Pennant more dlws
A bywyd hen fugail mor fyr? "

Mae’r cwpled diwethaf uchod wedi cael ei chyfieithu i Saesneg[10] a’i ddefnyddio er mwyn hyrwyddo harddwch yr ardal i ymwelwyr. Dwi’n credu mai trwy astudio barddoniaeth Cymraeg yn yr ysgol wnes i ddatblygu’r cysyniad fod y Cymry yn hanesyddol wedi gwerthfawrogi natur a bod hyn yn elfen gryf o’n hatyniadau i’n bro a theimladau o hiraeth tra i ffwrdd. Ond erbyn rŵan dwi’n gweld nid y ni yn unig sydd gyda’r teimladau yma. Mae Rachel Carson yn hoff o’i hardal yn Maine, mae Dara Mc Anulty gyda’i hoff lefydd yn Iwerddon a dwi’n siŵr yn ystod y Pandemig mae nifer fawr wedi cael hyd i lecyn bach o natur leol sydd wedi dod yn arbennig iddyn nhw.



Cysylltu â natur yn ein gerddi


I rai ohonom, roedd y cyfnod clo yn gyfle i arddio, a sicr mae’n un ffordd fedrwn ddatblygu cysylltiad â natur. Pob tro dwi’n rhoi hadau lawr a dwi’n mynd yn ôl a gweld ei fod nhw’n tyfu dwi’n cael gwefr o gyffro – er fy mod i wedi gwneud bron pob gwanwyn ers i mi fod yn blentyn. Pleser felly ddod ar draws y llyfr newydd ‘Dere i Dyfu’ gan Adam Jones[11]. Mae nifer o lyfrau am arddio ar gael ond efallai bydd y cymeriadau gweithgar hapus anifail yma’n dod a garddio i gynulleidfa newydd.





Angen mwy o syniadau?


Os mae dal angen ysbrydoliaeth arnoch, beth am ddilyn rhai o’r dolenni ynghlwm ar gyfer enghreifftiau eraill fedrwch ddefnyddio er mwyn plethu llenyddiaeth â natur. Ond cofiwch, ewch ati i fynd a’ch plant a disgyblion allan i brofi natur a sylwi ar natur dros eu hunain fel bydd ganddynt brofiadau a theimladau i rannu ag eraill. Yn ôl geiriau Rachel Carson, nid oes angen i chi allu adnabod rhywogaethau er mwyn dysgu plant am natur:

"...mae’n llawer pwysicach i deimlo na gwybod "
"...it is not half so important to know as to feel "


Gan Anita Daimond, Antur Natur

Troednodiadau


[1] 1998 ‘The Sense of Wonder’ gan Rachel Carson (Lluniau Nick Kelsh, Rhagarweiniad Linda Lear) Harper &Row Publishers, New York (wnaeth llyfr wreiddiol Rachel Carson cael ei cyhoeddi yn 1965) [2] Dilyniant Naturiol https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/education-learning-and-skills/whats-your-connection-with-nature-like/?lang=cy

[3] 2020 ‘Diary of a Young Naturalist’ gan Dara McAnulty. Penguin, Prydain.

[4] 2017 ‘The Lost Words’ geiriau gan Robert Macfarlane, darluniadau gan Jackie Morris, Penguin UK [5] https://cy.walescouncilforoutdoorlearning.org/resources Pecyn Cymorth Addysgu i gefnogi cwricwlwm y Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru [6] 2021 ‘Wild Child: a journey through Nature’ gan Dara McAnulty, darluniadau gan Barry Falls. Macmillan. Llundain [7] Clychau’r Gog gan R Williams Parry. Gefais hyd iddi yn 1998 ‘The Oxford Book of Welsh Verse: Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg golygydd Thomas Parry. Oxford University Press. [8] https://www.youtube.com/watch?v=AdPpR0RlyJc Sesiwn hyfforddiant athrawon ar-lein ar gyfer y cynllun Partneriaeth Tirwedd Y Carneddau [9] https://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/safle/porthmadog/pages/cwm_pennant.shtml?5 Cwm Pennant gan Eifion Wyn (1867 - 1926) [10] Mae cyfieithiad o’r holl darn o farddoniaeth ar gael yn y llyfr yma 1997 ‘Cymric Scriptures, Ysgrythurau Cymraeg’ gan Charles Lawrie. Wynstones Press. Stourbridge. [11] 2021 ‘Dere i Dyfu, gyda Dewi Draenog a Beca Broga’ gan Adam Jones, lluniau gan Ali Lodge, dylunio gan Tanwen Haf. Y Lolfa. Talybont.


29 views0 comments
bottom of page