top of page
Search

Wythnos o ddysgu yn yr awyr agored yng Nghymru.... neu (ychydig) yn fwy cryno, #WythnosDysguynyrAwyr

Mae Cymru'n enwog fel gwlad â thirwedd hardd, trawiadol a chynhyrfus, sy'n llawn diwylliant, cyffro a chyfleoedd i ddysgu. Ac nid yw dysgu yn yr awyr agored yn eithriad.




Phil Stubbington, Cadeirydd presennol Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored sy’n sôn am rôl y Cyngor ac Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru sydd ar y gweill.

"Mae Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored yn dwyn ynghyd y rhanddeiliaid cenedlaethol a rhanbarthol allweddol sy'n ymwneud â llunio dysgu awyr agored o ansawdd uchel a chysylltiad â'r amgylchedd naturiol. Dyma offeryn hyblyg ac effeithiol sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lunio dyfodol dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth i blant a phobl ifanc, teuluoedd a chymunedau ledled Cymru. Gan weithio ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, rydyn ni’n cydlynu #WythnosDysguynyrAwyrAgoredCymru bob blwyddyn i:

  • Ddathlu'r gweithgareddau, sefydliadau a chyfleoedd anhygoel ar gyfer dysgu awyr agored a chysylltiad â natur, sy'n digwydd bob dydd ledled Cymru

  • Codi ymwybyddiaeth o werth mynd â dysgu i’r awyr agored a phwysigrwydd yr effaith mae cysylltu â'r amgylchedd naturiol yn ei chael ar bobl, cymunedau, natur a chenedlaethau'r dyfodol.

  • Ymgyrchu dros fwy o gefnogaeth a chydnabyddiaeth ar gyfer dysgu yn yr awyr agored ac arddangos Cymru fel arweinydd agweddau wrth ddarparu dysgu awyr agored o ansawdd uchel ledled y wlad.


O hyfforddiant DPP a gweminarau am ddim i athrawon ac arweinwyr, adnoddau, ffilmiau a gweithgareddau hawdd eu defnyddio, i ddigwyddiadau dathlu a chreu cyffro ar y cyfryngau cymdeithasol; mae #wythnosdysguynyrawyragoredcymru yn creu’r llwyfan i hyrwyddo dysgu yn yr awyr agored, darparu cyfleoedd i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol ac arddangos Cymru fel y prif leoliad ar gyfer dysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn yr awyr agored.



Mae cymaint o grwpiau a sefydliadau anhygoel naill ai'n darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn dysgu yn yr awyr agored neu’n datblygu eu profiad eu hunain drwy hyfforddiant a dysgu. Dyma gwpl a ddaliodd ein sylw:

Yn dilyn trafodaethau gyda thîm arwain yr ysgol, mae Ysgol Gynradd Glyncoed yng Nglynebwy yn cynllunio er mwyn i Wythnos Dysgu Yn yr Awyr Agored Cymru fod yn gyfle i ddatblygu dull ysgol gyfan ar sut i fod y tu allan a beth allwch chi ei wneud gyda natur.

"Rydyn ni’n gobeithio tynnu sylw at gyfleoedd synhwyraidd, sut i gynnwys dysgwyr wrth wylio natur; arwyddion o'r gwanwyn, darluniau arsylliadol o goed ceirios, cennin Pedr, a blodau gwanwynol eraill" – Alice Hadley, Ysgol Gynradd Glyncoed.


Mae Ysgol y Goedwig yn rhan fawr o'r ymagwedd at ddysgu, yn Ysgol Tir Morfa, y Rhyl lle mae'r addysgu'n digwydd y tu allan yn rheolaidd ar dir yr ysgol neu goetir lleol gerllaw. Mae ganddyn nhw hyd yn oed eu perllan a'u polydwnnel eu hunain ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau sy'n cael gofal ac yn cael eu dewis, eu paratoi a'u mwynhau gan y disgyblion.

Gyda dysgu yn yr awyr agored yn rhan mor fawr o fywyd ysgol o ddydd i ddydd, maen nhw bellach yn edrych ymlaen at Wythnos Dysgu yn yr Awyr Agored Cymru 2021, fel yr eglurodd yr athrawes a Chydlynydd Ysgol y Goedwig, Fran Hoare:


"Mae'r Wythnos Dysgu Yn yr Awyr Agored yn syniad gwych, ac rydyn ni mor falch ei bod yn ôl eleni. Rydyn ni am ei wneud yn beth mawr ar draws yr ysgol i arddangos yr hyn rydyn ni’n ei wneud drwy gydol y flwyddyn. Rydyn ni’n gobeithio gallu cynnal o leiaf un wers yn yr awyr agored bob dydd ar gyfer pob dosbarth yn ystod yr wythnos. Mae cymaint o resymau dros gymryd rhan mewn dysgu yn yr awyr agored. Dwi’n credu mai un o'r prif bethau i ni yw bod bod y tu allan yn cynnig profiad synhwyraidd llawer gwell i gefnogi dysgu. Rydyn ni’n gweld effaith enfawr ar ein myfyrwyr – maen nhw’n ddi-os yn elwa o fod yn fwy egnïol ac maen nhw’n mwynhau dysgu am eu hamgylchedd lleol a sut i ofalu amdano."


P'un a ydych chi’n cymryd rhan mewn cwrs hyfforddi, yn mynd â grŵp y tu allan, yn mwynhau gweld a chlywed holl brysurdeb yr wythnos ar y newyddion neu'r cyfryngau cymdeithasol neu'n defnyddio'r wythnos hon i dreulio ychydig o amser y tu allan yn cysylltu â natur – mwynhewch y profiad a neilltuwch amser i chi'ch hun a'ch lles eich hun.


Yn y cyfnod tyngedfennol hwn yn ein byd, gyda phandemig meddygol byd-eang yn dal i fynd rhagddo, argyfwng hinsawdd heb unrhyw arwydd o newid addawol ac ansicrwydd ym mhobman; nid yw'r cysylltiad â phobl, natur a chymuned erioed wedi bod yn fwy pwysig.

Gwnewch amser, ewch allan a mwynhewch eich hun, yn gyfrifol, beth bynnag rydych chi’n ei wneud.


Dysgwch fwy yn www.cy.walescouncilforoutdoorlearning.orga rhannwch eich profiadau gan ddefnyddio #wythnosdysguynyrawyragoredcymru

8 views0 comments
bottom of page