top of page

Ymchwil: Dysgu Awyr Agored Rhagorol

Dyma rai ffynonellau ymchwil a thystiolaeth sy'n dangos arfer da mewn dysgu awyr agored ac yn archwilio dulliau datblygiad proffesiynol ar gyfer addysgwyr sy'n ymwneud â dysgu awyr agored.

​

​

Gwymon a gwichiaid AD.jpg
Botwm
Dysgu Awyr Agored Rhagorol
Dysgu yn yr Awyr Agored o Safon Uchel i Gymru

Mae Dysgu yn yr Awyr Agored o Safon Uchel i Gymru yn adeiladu ar y ddogfen Dysgu yn yr Awyr Agored o Safon Uchel a baratowyd gan OEAP a Chyngor Awyr Agored Lloegr, yn gosod y ddogfen mewn cyd-destun penodol Cymreig; yn plethu arferion da Dysgu yn yr Awyr Agored gyda deddfwriaeth Llywodraeth Cymru a’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Cyfnod Sylfaen Llawlyfr Dysgu yn yr Awyr Agored

Cyfnod Sylfaen Llawlyfr Dysgu yn yr Awyr Agored

Mae'r llyfryn hwn yn rhoi canllawiau a chyngor i ymarferwyr ar wneud y gorau o'r ardal tu allan i hyrwyddo dysgu effeithiol. Cynhyrchwyd t yn 2009 i gyd-fynd â chyflwyniad y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru gan yr Is-adran Cwricwlwm ac Asesu, Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Prosiect Arddangos Cysylltiadau Naturiol

Prosiect Arddangos Cysylltiadau Naturiol 2012-2016

Amcan y prosiect Cysylltiadau Naturiol oedd sefydlu ac ymgorffori ‘Dysgu y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth yn yr Amgylchedd Naturiol’ (LINE) trwy frocera perthnasoedd rhwng ysgolion, sefydliadau cymorth a gwirfoddolwyr. Mae'r adroddiad terfynol yn manylu ar ganfyddiadau allweddol yn ymwneud ag effaith LINE ar athrawon a disgyblion yn ogystal â sut y cafodd y prosiect ei weithredu, ei gyflawni a'i reoli.

Nid yw Cyngor Cymru ar gyfer Dysgu yn yr Awyr Agored yn gyfrifol am gynnwys, safon na dibynadwyedd y gwefannau, y cyrsiau a’r adnoddau y mae’r dudalen yma yn cysylltu â nhw fel linc.

​

Nid cefnogaeth o unrhyw fath yw’r ffaith eu bod wedi eu rhestru. Ni allwn warantu y bydd y linciau yn gweithio drwy’r amser ac nid oes unrhyw reolaeth gennym dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig.

bottom of page